Does yna ddim “cysylltiad amlwg” rhwng nifer y bobol sy’n cymryd cyffuriau a’r cosbau llym sy’n cael eu rhoi am y drosedd, yn ôl adroddiad newydd gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r astudiaeth yn cymharu Prydain gyda 13 o wledydd eraill lle mae’n gyfreithlon i feddu ar ychdig bach o gyffuriau, fel Portiwgal a’r Weriniaeth Siec.

Yn ôl yr adroddiad, dyw llymder y gosb ddim yn cael effaith ar faint o gyffuriau mae pobol yn ei gymryd.

Er hynny, fe ddywedodd y Swyddfa Gartref nad oes “unrhyw fwriad o gwbl” i wneud cyffuriau yn gyfreithlon.

‘Hanesyddol’

Mae Danny Kushlick , sefydlydd y grŵp Trawsnewid Polisi Cyffuriau wedi dweud dod casgliad yr adroddiad yn “hanesyddol”:

“Am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyfaddef nad yw gosod cosbau llym am ddefnyddio cyffuriau yn lleihau nifer y bobol sy’n defnyddio cyffuriau.

“Mae hefyd wedi cydnabod nad yw dad-griminaleiddio cyffuriau yn cynyddu faint o bobol sydd â chyffuriau yn eu meddiant.”

“Mae’n ddatblygiad hanesyddol yn natblygiad polisi cyffuriau Prydain.”

Llwyddiant

Ond mae llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref wedi amddiffyn polisi’r Llywodraeth gan ddweud ei fod wedi llwyddo i leihau nifer y bobol sy’n defnyddio cyffuriau.

“Does gan y Llywodraeth hon ddim unrhyw fwriad i ddad-griminaleiddio cyffuriau,” meddai. “Mae ein polisi cyffuriau yn gweithio ym Mhrydain.

“Mae hi’n iawn i ni edrych ar bolisïau gwledydd eraill ac mae’r adroddiad yn crynhoi’r agwedd ryngwladol yma.”