Aderyn ysglyfaethus wedi'i ladd (Llun - RSPB)
Mae angen cyfreithiau cryfach a mwy o gosbi ar bobol sy’n lladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon, meddai’r Gymdeithas Gwarchod Adar.

Roedd yna 37 o achosion o ladd adar o’r fath yng Nghymru yn ystod 2013, yn ôl adroddiad newydd yr elusen – mwy na’r cyfartaledd ar gyfer gwledydd Prydain.

Yn ôl yr RSPB, mae angen gweithredu’n llymach yn erbyn y diwydiant saethu grugieir ac adar o’r fath, gan fod llawer o adar yn cael eu lladd er mwyn gwarchod busnes, lle mae rhai pobol yn talu cymaint â £3,000 am ddiwrnod o saethu.

Powys sy waetha’

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi ymdrechion i adfer rhostiroedd ar gyfer grugieir mewn rhai rhannau o’r wlad.

Yng Nghymru, roedd bron hanner yr holl ddigwyddiadau wedi bod ym Mhowys – cyfanswm o 17.

Trwy wledydd Prydain, roedd yna 338 o droseddau yn erbyn adar ysglyfaethus ond, yn ôl adroddiad Birdcrime yr RSPB, mae llawer mwy o ddigwyddiadau na’r hyn sy’n cael ei gofnodi’n swyddogol.

‘Di-synnwyr’ meddai Bill Oddie

“R’yn ni’n colli cannoedd o’n hadar mwya’ gwych bob blwyddyn oherwydd lladd disynnwyr a di-hid gan leiafrif, ac mae’n rhaid ei atal,” meddai’r cyflwynydd teledu, Bill Oddie, sy’n un o is-gadeiryddion y Gymdeithas.

“Dw i’n credu ei bod yn fater i bobol o fewn y diwydiant saethu helpu i roi stop ar ladd adar ysglyfaethus, unwaith ac am byth.”