Y Comisiwn wedi cytuno ar ddogfen Llywodraeth Prydain
Mae’r ddogfen bartneriaeth swyddogol wedi’i arwyddo sy’n caniatáu gwario £1.9 biliwn o arian Ewropeaidd yng Nghymru yn ystod y chwe blynedd nesa’.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cytuno ar strategaeth Llywodraeth Cymru – a rhannau eraill o wledydd Prydain – ynglŷn â sut i wario’r arian.
Yng Nghymru, fe fydd ar gael ar gyfer cynlluniau yng Nghymoedd y De, y Gorllewin a’r Gogledd-orllewin – y rhannau o’r wlad sydd ymhell ar ôl gweddill yr Undeb Ewropeaidd o ran cynnyrch economaidd.
Y trydydd tro
Fe wnaed y penderfyniad i gynnwys y ddwy ardal unwaith eto y llynedd, y trydydd tro iddyn nhw gael yr arian o’r cronfeydd arbennig.
Mae hynny’n arwyddo fethiant polisïau economaidd i gynyddu GDP – cyfanswm cynnyrch economaidd yr ardaloedd hynny yn ôl y pen o boblogaeth.
Dyw manylion y cynlluniau ddim ar gael eto ond mae’n ymddangos y bydd Llywodraeth Cymru[n rhoi pwyslais ar brosiectau mwy yn y dyfodol, a llai o bwyslais ar gwmnïau preifat unigol.
Mae yna awgrymiadau hefyd y bydd yna bwyslais ar gynlluniau ynni gwyrdd, cynyddu sgiliau a chynlluniau trafnidiaeth, fel rheilffyrdd sy’n cysylltu ardaloedd ymylol gyda dinasoedd mwy.
Blaenoriaethau
O’r 778 o fusnesau a dderbyniodd gymorth trwy’r arian yn ystod y cyfnod diwetha’ – cronfeydd strwythurol fel y Gronfa Ddatblygu Ewropeaidd Ranbarthol a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd – dim ond 35-40% a welodd gynnydd yn eu trosiant a dim ond 305 o swyddi newydd oedd wedi’u creu.
Roedd 75% o’r bobol ifanc a gafodd gymorth trwy’r Gronfa Gymdeithasol rhwng 2007 a 2013 wedi cael cymhwyster.
Mae’r ddogfen, a oedd wedi ei llunio gan Lywodraeth Prydain, yn dangos y bydd y prif bwyslais ar gynlluniau yn y meysydd yma:
- Cynlluniau i leihau defnydd o garbon.
- Gwneud cwmnïau bach a chanolig yn fwy cystadleuol.
- Trafnidiaeth gynaliadwy
- Technoleg, datblygu ac arloesi
- Swyddi cynaliadwy o safon a ‘symudoledd’ swyddi.