Adeiladau'r Cyngor - y dadlau'n dechrau eto
Mae arweinydd y Blaid Lafur ar Gyngor Sir Benfro wedi galw am ailddechrau’r broses ddisgyblu yn erbyn Prif Weithredwr yr awdurdod.
Yn ôl Paul Miller, mae penderfyniad yr Archwilydd swyddogol i atal y cyngor rhag gwneud taliad ffarwel o £330,000 i Bryn Parry Jones yn golygu bod eisiau ailystyried yr holl fater.
Mewn datganiad fe ddywedodd bod eisiau rhoi stop ar y broses o ddiswyddo’r Prif Weithredwr ac ailsefydlu’r pwyllgor disgyblu oedd yn ystyried honiadau o gamymddwyn yn ei erbyn.
‘Anghyfreithlon’
Roedd y gwrandawiadau disgyblu wedi dod i ben pan gytunodd y Cyngor ar becyn ffarwelio i Bryn Parry Jones bythefnos i ddoe.
Bellach, mae’r Archwilydd Penodedig ar gyfer Cyngor Sir Benfro, Anthony Barrett, yn dweud bod y taliad yn y pecyn ffarwelio’n anghyfreithlon.
Ac mae wedi gwadu awgrym gan y Cyngor eu hunain eu bod wedi newid geiriad y pecyn a bod popeth yn iawn.
Yn ôl Paul Miller, mae Anthony Barrett wedi dweud yn glir bod y rhybudd i atal y taliadau yn parhau mewn grym.
Y cefndir
Fe ddechreuodd yr helynt pan ddaeth hi’n amlwg bod Bryn Parry Jones ac un swyddog arall wedi derbyn arian di-dreth yn lle cyfraniadau pensiwn.
Yn ôl yr Archwilydd, roedd hynny’n anghyfreithlon ac fe arweiniodd hynny at gynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weithredwr a dechrau proses ddisgyblu.
Ond fe gafodd Arweinydd y Cyngor yr hawl i drafod pecyn ffarwel gyda Bryn Parry Jones ac fe gytunodd y Cyngor ar hwnnw o 29 i 23 – a rhoi stop ar y broses ddisgyblu yr un pryd.
Yn awr mae Anthony Barrett yn dweud bod y taliad ffarwel yn anghyfreithlon oherwydd ei fod yn cynnwys swm o arian yn iawn i gydnabod y taliadau anghyfreithlon gwreiddiol.