Shân Cothi
Mae elusen Amser Justin Time, yr elusen a gafodd ei sefydlu gan y gantores Shân Cothi ar gyfer codi arian i frwydro canser y pancreas, wedi rhoi swm chwe ffigwr i brosiect ymchwil bôn-gelloedd.

Nod yr ymchwil gan Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Cancr Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Sean Porazinski, yw sicrhau bod modd rhoi diagnosis cynharach o’r math hwn o ganser.

Bydd y swm o arian – y swm mwyaf sydd wedi cael ei roi i’r prosiect canser y pancreas hyd yn hyn – yn cael ei dalu dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cafodd y prosiect ymchwil ei sefydlu yn 2012 ac mae dros 50 o wyddonwyr yn gweithio i’r prosiect bellach.

Cred gyffredin y tîm o ymchwilwyr yw mai bôn-gell canser sy’n gyfrifol am aildyfiant a lledaeniad tiwmorau canseraidd ac y gellir atal y canser trwy dargedau’r bôn-gelloedd.

Er cof am ei gŵr

Bu farw Justin Smith , gŵr Shân Cothi, o ganlyniad i ganser y pancreas yn 2007, a chafodd Amser Justin Time ei sefydlu er cof amdano.

Wrth gyhoeddi’r rhodd ariannol, dywedodd Shân Cothi: “Mae’n fraint i allu cyfrannu swm chwe ffigwr yn enw Justin i hyrwyddo ymchwil ym maes canser y pancreas. Mae canser y pancreas yn un o’r clefydau dychrynllyd sy’n dioddef o gyfraddau goroesi isel o ganlyniad i ddiffyg ariannu a diffyg ymchwil. Y gobaith yw y bydd cyfraniad sylweddol AJT yn gwneud gwahaniaeth.

“Rydym wedi bod yn ceisio dod o hyd i brosiect sy wedi’i anelu’n benodol at ganser y pancreas ers amser, felly, pan ddaeth y cyfle i weithio mewn partneriaeth gydag Athrofa Prifysgol Caerdydd, roedd y prosiect yma yn gweddu’n berffaith.

“Wedi’r cyfan fe anwyd elusen Amser Justin Time o ganlyniad i ddiffyg ymchwil ym maes canser y pancreas.

Diolch i’r cefnogwyr

Wrth gyfeirio at gefnogwyr yr elusen, ychwanegodd y gantores: “Alla’i ddim diolch digon i chi.

“Heb eich cymorth, cefnogaeth a’ch anogaeth yn ystod y chwe blynedd diwethaf, byddai hyn ddim wedi bod yn bosib.

“Mae ein taith yn parhau ac rwy’n gobeithio wir y bydd eich cefnogaeth yn aros gyda ni.

“Felly, os gwelwch yn dda, daliwch ati i redeg milltiroedd, i garlamu dros dirwedd Cymru ac i goncro’r mynyddoedd mawr, oherwydd gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth!

“Ar ran Amser Justin Time a phawb sy’ wedi cefnogi’r elusen a chyfrannu mor hael dros y  chwe mlynedd ddwethaf, i ni’n dymuno pob hwyl i Dr Sean Porazinski a Dr Hogan gyda’u gwaith ac rydym yn edrych ymlaen at ddysgu llawer mwy am y maes arloesol yma ym myd ymchwil bôn-gelloedd cancr.”

Ychwanegodd Dr Sean Porazinski: “Gan taw cancr y pancreas yw un o’r mathau mwyaf ymosodol o’r clefyd mae’n her aruthrol i ddeall y clefyd ac felly rwy’n falch iawn fy mod yn  gallu parhau gyda’r gwaith hanfodol yma yng Nghaerdydd.

“Yn y pen draw, ein nod yw cyfrannu at sefydlu diagnosis o gancr pancreatig cynnar a chwilio am ffyrdd i ddatblygu therapïau newydd a fydd o fudd uniongyrchol i’r cleifion sy’n dioddef o’r cyflwr hwn.”