Cynllun carchar Wrecsam
Mae tystiolaeth a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn dangos na fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwybod beth fydd goblygiadau’r carchar mawr newydd ar wasanaethau iechyd yn Wrecsam tan fis Mai’r flwyddyn nesaf.

Ond fe fydd penderfyniad ynghylch cais cynllunio ar gyfer y carchar newydd ddydd Llun.

Mae pryderon eisoes nad yw gofal iechyd ar gyfer carcharorion yn cael ei ariannu’n ddigonol gan Lywodraeth Prydain, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd lleol ddod o hyd i’r arian ychwanegol i lenwi bwlch ar hyn o bryd.

Dengys tystiolaeth a ddaeth i law Canolfan Lywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd o dan y Ddeddf Ryddid Gwybodaeth na fydd gofynion iechyd, cost nac adnoddau staffio ar gyfer y carchar newydd yn cael eu hystyried tan y flwyddyn nesaf.

‘Gwir gost y carchar yn anhysbys’

Wrth ymateb i’r dystiolaeth, dywedodd yr academydd Robert Jones o Ganolfan Lywodraethiant Cymru: “Tra bo’r achos i dderbyn caniatâd cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno unwaith eto gerbron Pwyllgor Cynllunio Cyngor Wrecsam ddydd Llun (3 Tachwedd 2014), yr hyn y mae’r wybodaeth yma’n ei ddangos yw fod gwir gost y carchar yn parhau’n anhysbys i wleidyddion yng Nghymru.

“Yn benodol, tan fod Asesiad o Anghenion Gofal Iechyd yn cael ei gwblhau, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn aros yn y tywyllwch ynghylch gofynion a chostau tebygol carchar Wrecsam.

“Dydy gofal iechyd carcharorion ddim yn rhad ac o ystyried y potensial o gostau meddygol uchel iawn i’r ardal leol o du’r carchar newydd, mae’n hanfodol sicrhau nad yw’r un fricsen yn cael ei gosod yn y carchar cyn i ni wybod effaith lawn y carchar newydd.”