Llun lyfrgell - gweithwyr mewn planhigfa de
Mae llithriad mwd a gafodd ei achosi gan law monsŵn wedi claddu ugeiniau o dai gweithwyr ar blanhigfa de yng nghanol Sri Lanka.
Mae o leia’ dri o bobol wedi eu lladd ac mae ofnau bod 150 o bobol eraill ar goll wrth i’r llithriad ddinisitrio 120 o gartrefi gweithwyr ar ystad de Meeribedda yn ardal Badulla.
Mae milwyr wedi cyrraedd yno erbyn hyn i gynorthwyo gyda’r gwaith achub.
Mae’r rhan fwyaf o Sri Lanka wedi cael glaw trwm yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae tymor monsŵn y wlad fel arfer yn mynd o fis Hydref hyd at fis Rhagfyr.