Swyddog iechyd yng ngorllewin Affrica (PA)
Mae Cymru’n rhan o apêl ryngwladol newydd i godi arian i ymladd yr afiechyd ebola.
Dyma’r tro cynta’ erioed i Bwyllgorau Argyfwng Trychinebau (DEC) gwledydd Prydain gynnal apêl ynglŷn ag afiechyd – arwydd o effeithiau’r afiechyd yng ngorllewin Affrica.
Fe fydd galwadau am arian yn cael eu gwneud yr wythnos hon ar amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys y we a’r teledu.
Cydweithio
Mae Apêl DEC Cymru yn cael ei arwain gan nifer o asiantaethau – Cymorth Cristnogol, Tearfund, CAFOD, Oxfam Cymru, Y Groes Goch, Achub y Plant, Islamic Relief ac Age Cymru.
Fe fydd yr arian yn mynd at waith fel cael gwared ar gyrff mewn modd diogel, codi ymwybyddiaeth ac olrhain cysylltiadau pobol sydd wedi eu heintio.
Hyd yn hyn mae’r salwch wedi lladd mwy na 4,500 o bobol mewn tair gwlad – Liberia, Sierra Leone a Guinea – ac mae bron 10,000 o bobol yn wael, gyda’r nifer yn cynyddu o rhwng 5,000 a 10,000 bob wythnos.
‘Unigryw’
“Mae’r apêl hon yn unigryw ac mae hynny’n arwydd o pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa yng ngorllewin Affrica erbyn hyn,” meddai Kirsty Davies, Cadeirydd yr apêl yng Nghymru.
“Rydyn ni’n tystio i afiechyd sydd nid yn unig yn creu argyfwng meddygol, ond argyfwng dyngarol hefyd.
“Os na wnawn ni weithredu ar fryd i atal ebola rhag ymledu ac i helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio, bydd rhannau o orllewin Affrica yn wynebu trychineb o fewn 60 niwrnod.”
Kofi Annan yn beirniadu
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, wedi beirniadu diffyg ymateb y gymuned ryngwladol.
Wnaethon nhw ddim ymateb yn iawn, meddai, nes i’r salwch ddechrau effeithio ar bobol yn yr Unol Daleithiau.