Rhan o un o'r profion i blant bach
Mae profion newydd yn ysgolion cynradd Cymru’n achosi gofid mawr i blant bach, meddai un o’r undebau athrawon.
Mae’r pwysau cynddrwg, fel bod rhai plant yn crïo ac yn anfodlon mynd i’r ysgol, yn ôl arolwg gan NUT Cymru.
Roedden nhw wedi holi eu haelodau am y profion am yr ail flwyddyn yn olynol ac wedi cael tystiolaeth fod y profion ar blant saith oed yn achosi pryder heb wneud llawer i wella safonau.
‘Dim byd newydd’
Yn ôl swyddog polisi’r undeb yng Nghymru, mae plant bach yn cael sioc wrth symud o awyrgylch dysgu-trwy-chwarae’r Cyfnod Sylfaen i orfod eistedd wrth ddesg a gwneud prawf.
“Dyw’r profion yma ddim yn ffeindio dim byd newydd,” meddai Owen Hathaway wrth Radio Wales. “Efallai bod plant yn well am sefyll profion, ond dydyn nhw ddim yn well o ran y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.”
Roedd llawer o amser dysgu yn cael ei golli, meddai, er mwyn paratoi’r plant at y profion.
Y cefndir
Dim ond ers dwy flynedd y mae’r profion wedi cael eu hailddechrau yng Nghymru ar ôl cyfnod heb brofion o’r fath.
Ond mae undebau athrawon eraill wedi mynegi amheuon am y profion a’u heffaith ar blant.