Wynford Ellis Owen - 'gwasanaeth heb ei debyg'
Mae pobol Cymru’n gwario £1.6 biliwn bob blwyddyn ar un math o beiriant gamblo yn ôl gwasanaeth newydd sy’n ceisio delio â’r broblem.

Yn ôl lun o’r arweinwyr, fe fydd yn wasanaeth gwahanol i ddim sydd wedi bod yng Nghymru cyn hyn.

Mae Curo’r Bwci yn apelio ar i bobol sydd â phroblemau gamblo ddod atyn nhw i roi tystiolaeth a fydd yn help wrth gynllunio’r gwasanaeth.

Tua £675 yr un bob blwyddyn

Yn ol yr elusennau sy’n cydweithio i lansio Curo’r Bwci, Cymru yw’r unig un o’r wledydd y DG sydd heb gasglu ystadegau am gamblo problemus a salwch gamblo.

Ond, ar gyfartaledd, maen nhw’n dweud bod y swm sy’n cael ei wario ar Beiriannau Betio Ods Sefydlog yn cyfateb i £675 ar gyfer pob oedolyn yn y wlad.

Dyna pam fod pedair elusen – CAIS, Stafell Fyw Caerdydd, Alcohol Concern a Chanolfan Astudiaethau Trin Caethiwed Action on Addiction yn lansio gwasanaeth newydd – Curo’r Bwci.

Problemau eraill

“Mae gamblo problemus ar gynnydd yng Nghymru,” meddai Wynford Ellis Owen, sy’n arwain ymgyrch Curo’r Bwci ar ran Stafell Fyw Caerdydd:

“Mae’r ffigyrau ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod modd ystyried bod bron 2% o ddynion yn gamblwyr patholegol.”

Mae problemau gamblo’n gallu arwain at broblemau emosiynol, ariannol a seicolegol difrifol iaw, meddai, a’r rheiny’n aml yn aros yn gudd nes cyrraedd cyflwr dwys iawn.

“Mae hi’n haws nag erioed gamblo heddiw – un ai ar y stryd fawr neu ar gyfrifiadur neu’r teledu.”

Gwasanaeth unigryw

“Nod Curo’r Bwci ydi cynnig gwasanaeth newydd na welwyd mo’i fath yng Nghymru o’r blaen,” meddai Wynford Ellis Owen.

“Rydan ni eisiau mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â gamblo problemus ac annog unrhyw un sy’n teimlo’u bod yn colli rheolaeth dros eu bywyd yn sgil gamblo i gysylltu â ni  er mwyn helpu creu pecyn teilwredig i’w gyflwyno ledled Cymru.”