Fydd diffoddwyr tân ddim yn streicio yng Nghymru’r penwythnos hwn ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud cynnig “sylweddol” i setlo’r anghydfod am oedran ymddeol a phensiynau.

Dywedodd Undeb y Brigadau Tân (yr FBU) bod gweithredu diwydiannol wedi cael ei osgoi yng Nghymru o ganlyniad i newid cyfeiriad sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi awgrymu cynnig gwell a allai wella’r sefyllfa i nifer fawr o ddiffoddwyr tân yng Nghymru yn sylweddol.

“ Byddai hyn yn golygu newid y ffordd y gallai diffoddwyr tân ddewis ymddeol cyn eu bod yn 60 mlwydd oed.”

Dywedodd yr undeb fod Llywodraeth Cymru yn awr yn gwneud paratoadau i ymgynghori ar y cynllun pensiwn, a fydd yn wahanol i’r un a gynigir yn Lloegr.

Streic yn Lloegr

Fe fydd aelodau Undeb y Brigadau Tân (FBU) yn Lloegr yn streicio am bedwar niwrnod o nos Wener ymlaen i brotestio am nad oes dim datblygiad yn eu ffrae nhw gyda Llywodraeth San Steffan.

Fe fydd y streic bedair niwrnod yn dechrau am chwech nos Wener ac yn cynnwys y penwythnos o ddathliadau tân gwyllt – un o gyfnodau prysura’r flwyddyn i’r gwasanaeth tân.

Mae cyfres o streiciau wedi cael eu cynnal dros y 18 mis diwethaf mewn protest yn erbyn newidiadau i bensiynau a’r oedran ymddeol – a fyddai’n codi i 60.

Mae’r undeb wedi honni y gall y newidiadau arwain at ddiffoddwyr tân yn colli eu swyddi os ydyn nhw’n methu profion ffitrwydd yn eu 50au hwyr.