Enghraifft o gamera corff
Mae wardeiniaid traffig yn Sir Ddinbych yn mynd i arbrofi gyda gwisgo camerâu ar eu cyrff er mwyn atal ymosodiadau corfforol a geiriol arnyn nhw.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych, mae nifer o achosion wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ble mae pobol wedi ymosod yn gorfforol ar y wardeniaid ac wedi bod yn sarhaus tuag atyn nhw.

Mae o leia’ ddau o’r digwyddiadau hynny wedi cyrraedd y llysoedd ac, yn ôl y llefarydd, casglu tystiolaeth ar gyfer achosion o’r fath fydd y camerâu, nid am droseddau traffig.

“Fyddwn ni ddim yn goddef y math hwn o ymddygiad tuag at ein gweithwyr sy’n ymgymryd â gwaith anodd fel ag y mae, heb ddioddef cam-drin o’r fath,” meddai.

‘Maint ffôn poced’

Yn ôl y cyngor, dyw’r camerâu ddim mwy o ran maint na ffôn symudol ac mae modd eu clymu’n ddiogel i ddillad y wardeiniaid.

Bydd yr arbrawf yn parhau tan ganol mis Tachwedd a bydd y cyngor yn asesu dau gamera gwahanol ac yn ystyried unrhyw broblemau ymarferol posib cyn penderfynu defnyddio’r camerâu’n barhaol.