Mae peiriant twll yn y wal yn siop Tesco newydd Aberystwyth yn cynnig llawer mwy na’r disgwyl, yn enwedig i ddynion.

Mae llun sydd wedi ei gyhoeddi gan Aled Morgan Hughes ar ei dudalen Twitter hefyd yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn cael llawer mwy na rhai sy’n methu â siarad yr iaith.

Yn ol cyfranwyr eraill sy’n trydar, mae’r arwydd bellach wedi ei orchuddio a chafodd hynny ei gadarnhau gan Tesco, mewn datganiad Cymraeg.

“Rydym wedi tynnu’r arwydd i lawr a byddwn yn rhoi’r cyfieithiad cywir yn ei le cyn gynted â phosibl. Diolch i bawb a amlygodd y camgymeriad,” meddai.

‘Angen gwirio

Un arall i sylwi ar yr arwydd oedd y Cynghorydd Ceredig Davies o Aberystwyth a roddodd lun ar ei dudalen Facebook.

“Deg mas o ddeg i Tesco am ystyried yr iaith Gymraeg, ond efallai y dylai wedi cael ei wirio gan siaradwr Cymraeg cyn rhoi’r arwyddion ar y peiriannau,” meddai Ceredig Davies.

Mae’r llun gwreiddiol i’w weld fan hyn @AledMorganH