Mae nifer gweithwyr y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru sydd wedi bod o’r gwaith oherwydd salwch wedi dyblu mewn pum mlynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Roedd 125 o weithwyr yn sâl am 28 diwrnod neu fwy yn 2013-14, o’i gymharu â 67 yn 2009-10, yn ôl ffigyrau a fydd yn cael eu cyflwyno ar raglen faterion cyfoes Y Byd Ar Bedwar heno.

Mae’r ffigyrau’n awgrymu bod yr hyn sy’n cyfateb i un ym mhob chwech o weithwyr y gwasanaeth ambiwlans wedi bod yn sâl am gyfnod hir rywbryd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Fe ddywedodd un parafeddyg a siaradodd â’r rhaglen bod hynny oherwydd y pwysau gwaith cynyddol sydd ar weithwyr.

Ond fe wrthododd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford â gwneud cyfweliad i’r rhaglen.

Dros 450 yn sâl

Yn ôl y ffigurau, mae nifer gweithwyr y gwasanaeth a oedd yn sâl am fwy na 28 diwrnod wedi cynyddu’n raddol o flwyddyn i flwyddyn.

Maen nhw wedi codi o 67 yn 2009-10 i 77 yn 2010-11, yna 85 yn 2011-12 a 103 yn 2012-13, cyn cyrraedd 125 y llynedd.

Mae hynny’n golygu bod yr hyn sy’n cyfateb i 457 o weithwyr wedi methu cyfnodau helaeth o waith yn y pum mlynedd diwethaf – mae 2,500 yn gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans.

Mae Y Byd Ar Bedwar hefyd yn datgelu bod 283 o staff wedi gadael eu swyddi am resymau heblaw ymddeol.

‘Pobol eisiau gadael’

Yn ôl un parafeddyg profiadol sydd yn siarad â’r rhaglen ond ddim am gael ei enwi, mae’r pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn achosi i staff geisio gadael.

“Pan chi’n teithio ar speed gyda’r golau ’mlaen a’r seirens yn mynd, chi mewn peryg eich hunan. Mae’r stress ar staff ’di mynd lan lot,” meddai’r parafeddyg.

“Bron pawb fi’n siarad â nhw, maen nhw un ai eisiau gorffen neu maen nhw’n edrych am waith arall.”

Rhoi mwy o gefnogaeth

Yn ôl Tracy Myhill, pennaeth newydd y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru, maen nhw wedi cynnal arolwg i geisio gweld sut allan nhw roi mwy o gefnogaeth i’w staff wrth ddelio â’u gwaith.

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n rhoi £4m yn ychwanegol tuag at gerbydau ambiwlans yn ogystal â rhoi arian i recriwtio 100 o staff ychwanegol.

Ond yn ôl y parafeddyg a siaradodd â’r rhaglen dim ond adnewyddu’r cerbydau presennol fydd y £4m yn ei wneud, nid prynu rhagor.

Mae’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion a theuluoedd, gyda thargedau amser ar gyfer ymateb yn cael eu methu’n gyson a hynny’n arwain at bryderon bod bywydau’n cael eu peryglu.

Bydd Y Byd ar Bedwar: Gwasanaeth sy’n Gwegian yn cael ei darlledu heno am 10.00yh ar S4C.