Rhodri Roberts (llun trwy law'r heddlu)
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn 29 oed fu farw yn dilyn damwain ym Mhort Talbot yn oriau mân bore dydd Sul.
Roedd Rhodri Roberts yn dod o Lyncorrwg ac mae ei deulu wedi dweud na fyddan nhw fyth yn ei “anghofio fe na’i wên”.
Roedd wedi chwarae rygbi am flynyddoedd i Harlecwiniaid Maesteg ac yn feiciwr a moto-beiciwr brwd – roedd ef a’i bartner, Kaye, yn disgwyl eu plentyn cynta’ gyda’i gilydd ym mis Ionawr.
Holi am dystion
Mae’r heddlu’n dal i ofyn am dystion i’r ddamwain a ddigwyddodd ar yr A4063 rhwng Croeserw a Cymer ym Mhort Talbot tua 1.40 y bore pan gafodd Rhodri Roberts ei daro gan gar.
Mae’r plismyn eisiau gwybod am unrhyw un a welodd Rhodri Roberts rhwng hanner nos ac adeg y gwrthdrawiad.
Roedd yn gwisgo trowsus byr, siwmper gyda hwd ac roedd yn cerdded o gyfeiriad Maesteg tuag at Cymer.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 1400400962.