Dilma Rousseff - ennill o ychydig
Cafodd Dilma Rousseff ei hailethol yn arlywydd Brasil yn dilyn un o’r ymgyrchoedd closia’ yn y wlad ers iddi droi yn ddemocrataidd fwy na 30 mlynedd yn ôl.
Rhoddodd y fuddugoliaeth sêl bendith i Blaid y Gweithwyr, sy’n blaid asgell chwith, i barhau gyda’i diwygiadau cymdeithasol i drawsnewid y bumed wlad fwyaf yn y byd.
Cipiodd Dilma Rousseff 51.6% o’r bleidlais, gyda’i gwrthwynebydd asgell dde, Aecio Neves, yn dod yn ail agos gyda 48.4%.
Roedd y canlyniad hwn yn adlewyrchu rhaniadau dwfn o fewn Brasil – ymgyrch yr etholiad oedd un o’r butraf mewn hanes, gyda honiadau o lwgr-wobrwyo, nepotistiaeth ac ymosodiadau ciaidd o’r ddwy ochr.
Her fawr
Mae’r arlywydd yn wynebu her fawr i aildanio’r economi – roedd tr angen i wella gwasanaethau cyhoeddus wedi arwain at brotestiadau yn erbyn y llywodraeth y llynedd.
Mae’r senedd hefyd wedi rhannu, gyda’r glymblaid sy’n llywodraethu’n wynebu talcen caled i weithredu diwygiadau cymdeithasol gan fod y gefnogaeth iddi yn llai na 4 blynedd yn ôl.