Milwr yn Afghanistan (Llun:PA)
Mae gwleidyddion Cymreig yn parhau i anghytuno tros y penderfyniad i anfon milwyr i ymladd yn Afghanistan – a hynny wrth iddyn nhw adael y wlad.
Mae un o brif wrthwynebwyr y rhyfel, AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi sôn eto am “y digwyddiadau dychrynllyd” yn Afghanistan.
Mae wedi cyhuddo gwleidyddion eraill o fod yn “ddoeth wrth edrych yn ôl” wedi iddyn nhw anwybyddu rhybuddion bod y rhyfel yn gamgymeriad.
‘Gwerth chweil’
Ond yn ôl aelod Llafur arall, a gefnogodd y rhyfel ac sy’n aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn yn San Steffan, roedd y cyfan wedi bod yn werth chweil.
“Mae Afghanistan yn well lle ac mae Ewrop yn fwy diogel o ganlyniad i’n gweithredoedd,” meddai Madeleine Moon, Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr, wrth Radio Wales.
Ar yr un rhaglen, roedd arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷr Cyffredin, Elfyn Llwyd, yn mynnu ei fod yntau wedi bod yn gywir i bleidleisio yn erbyn anfon y milwyr.
“Dw i ddim yn siŵr faint gwell yden ni heddiw,” meddai, gan ddweud bod llawer o’r brawychwyr oedd yn Afghanistan bellach wedi symud i wledydd eraill yn y Dwyrain Canol.
Fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ei fod wedi cadw at ei addewid i gael y milwyr yn ôl cyn 2015.
Mewn neges drydar, fe ddywedodd, “Byddwn wastad yn cofio dewrder y rhai a wasanaethodd yn Afghanistan ar ein rhan a fyth yn anghofior rhai a wnaeth yr aberth eitha’.”
Cabinet yn dadlau
Ond roedd aelodau o’r cabinet Llafur a wnaeth y penderfyniad yn anghytuno hefyd.
Roedd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, John Prescott, yn amau a oedd yr hyn a enillwyd werth yr aberth tra oedd y cyn Ysgrifennydd Tramor, Jack Straw, yn mynnu ei fod yn “rhyfel angenrheidiol”.