Mae cyrch Prydain yn Afghanistan wedi methu, yn ôl ymgyrchwyr heddwch.

“Pan aeth Prydain i ryfel yn Afghanistan yn 2001, ychydig a fyddai wedi dychmygu y byddai’r gwrthdaro gwaedlyd yma wedi para dwywaith cymaint â’r Ail Ryfel Byd,” meddai Kate Hudson, ysgrifennydd cyffredinol CND.

“Mae’n hamcanion honedig wedi newid fel ceiliog y gwynt.

“Ai’r nod oedd dal y rheini a oedd yn gyfrifol am Fedi 11, i ddod â nhw i gyfiawnder? Fe ddigwyddodd hynny ddegawd ar ôl yr ymosodiad, os gellir galw dienyddio yn y fan a’r lle fel cyfiawnder, a wnaeth hynny ddim digwydd yn Afghanistan.

“Ai newid y llywodraeth oedd y nod? Mae’r Taliban yn dal ar i fyny ac yn cynyddu ei ymosodiadau. Ac mae Afghanistan yn cynhyrchu mwy o opiwm nag erioed, gan ddarparu tua 90% o gyflenwad y byd.

“Sut bynnag y mae rhywun yn mesur, mae Prydain, ynghyd ag America a’u cynghreiriaid yn Nato, wedi methu.

“Ddylai hyn fod yn ddim syndod: mewn gwirionedd mae’r syniad o ‘fuddugoliaeth’ yn ddiystyr pan fo’r amcanion yn anhysbys a grym milwrol amrwd yr unig arf.”

£20 biliwn

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Lindsey German, cydgysylltydd y Stop The War Coalition:

“Mae’n dda gweld y milwyr yn gadael Afghanistan, ond mae llawer o gwestiynau heb eu hateb. Pam fod £20 miliwn wedi cael ei wario ar y gwrthdaro yma tra bod toriadau llym gartref?

“Pam fod 10 gwaith cymaint wedi cael ei wario ar gyrchoedd milwrol yn Afghanistan ag sydd wedi cael ei wario ar gymorth? Pam fod miloedd lawer wedi marw, gan gynnwys 447 o filwyr Prydain?

“Dyw’r ymyrraeth filwrol ddim wedi dod â sefydlogrwydd, heddwch na democratiaeth i’r wlad, nac wedi gwneud Prydain yn lle saffach.”