Mae cymunedau ym Mhrydain yn cael eu ‘boddi’ gan fewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon.

Dywedodd fod graddau’r mewnfudo gymaint erbyn hyn fel bod rhai trefi ‘o dan warchae’.

“Rydym yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i rwystro trefi a chymunedau cyfain rhag cael eu boddi gan niferoedd anferthol o weithwyr mudol,” meddai.

“Mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ar yr arfordir dwyreiniol, ydyn, mae trefi’n teimlo o dan warchae gan niferoedd mawr o weithwyr mudol a phobl yn hawlio budd-daliadau.

“Doedd cytundeb gwreiddiol yr Undeb Ewropeaidd pan gafodd ei lunio 50 mlynedd yn ôl ddim yn rhagweld y symudiadau anferth hyn o bobl, ac mae gennym bob hawl i ddweud bod angen edrych ar hyn eto.”

Dywedodd fod ar y Torïaid eisiau cyfyngu ar y faint o fewnfudwyr a allai ddod i mewn i wneud swyddi penodol, neu fyw mewn rhannau penodol o Brydain.