Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, wedi galw am ddefnyddio Pabi Cymreig i goffáu pawb o Gymru a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a rhyfeloedd eraill.
Dywed fod canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr yn amser da i gyflwyno ffordd arbennig i gofio’r rhai o Gymru a gollodd eu bywydau.
Ar ôl rhoi ei araith gynhadledd olaf fel Aelod Seneddol yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen, dywedodd Elfyn Llwyd:
“Mae canmlwyddiant dechrau’r gyflafan hon yn amser perffaith i gyflwyno ffordd arbennig i gofio pob un o’r Cymry a gollodd eu bywyd.
“Dyna pam y byddai Plaid Cymru yn hoffi gweld pabi Cymreig yn dod yn symbol o gofio a pharch, nid yn unig i’r rheiny a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond mewn pob rhyfel ers hynny.
“Yn gynharach eleni mynychais ddadorchuddiad y Gofeb Gymreig yn Fflandrys i gofio’r Cymry a fu farw yn y rhyfel. Mae gan yr Alban ei phabi ei hun eisoes felly mae’n briodol i ni fabwysiadu pabi Cymreig fel ffordd arbennig i ni dalu teyrnged yma yng Nghymru.
“Mae Plaid Cymru wedi ymladd yn ddiflino dros achos cyn-filwyr, ac ni fydd eu hawliau yn cael eu anghofio pan fyddwn ni’n gosod ein addewidion ger bron yr etholwyr adeg yr Etholiad Cyffredinol.
“Rwy’n gobeithio y bydd ein ymgyrch dros gael pabi Cymreig yn denu cefnogaeth eang fel y bydd gennym cyn hir ffordd unigryw o gofio’n cyndeidiau a fu farw.”