Arweinydd Ukip, Nigel Farage (llun: PA)
Mae Ukip yn bwriadu targedu 100 o seddau yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, ar ôl i’w prif gyfrannwr, y gŵr busnes Paul Sykes, addo £1.5 miliwn ychwanegol at eu hymgyrch.
Roedd eu harweinydd, Nigel Farage, wedi awgrymu y byddai Ukip yn targedu ei hadnoddau ar ychydig ddwsinau o etholaethau y gallai eu hennill fis Mai nesaf.
Ond dywedodd Paul Sykes wrth y Sunday Times:
“Rydym yn atgyfnerthu ein cronfeydd ar ôl ein buddugoliaeth yn etholiad Ewrop ond byddwn yn codi arian sylweddol pellach am ymgyrch genedlaethol ac i dargedu seddau ymylol, sy’n debygol o fod yn nes at 100 na’r 30-40 yr oeddem wedi eu nodi i ddechrau.
“Fe fyddwch chi’n gallu gweld yr ymgyrch hon o’r lleuad.”
Daw hyn ar ôl i arolygon barn awgrymu rhagor o newyddion da i’r blaid.
Mae arolwg barn Opinium yn yr Observer yn dangos eu cefnogaeth ar 18%, ond dywedodd bron i draean y rhai a holwyd y bydden nhw’n pleidleisio dros Ukip petaen nhw’n meddwl y gallen nhw ennill yn eu hardal.
Mae arolwg arall hefyd yn awgrymu y bydd y cyn-AS Torïaidd Mark Reckless yn ennill Rochester a Strood o dan faner Ukip yn yr is-etholiad ar Dachwedd 20.