Canghellor yr Almaen, Angela Merkel
Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi taflu dŵr oer ar obeithion David Cameron i gyfyngu ar hawliau gweithwyr i ymfudo o un wlad i’r llall o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn benderfynol o gyfyngu ar yr egwyddor o ryddid symudiad gweithwyr o fewn yr Undeb.

Y gred yw ei fod yn bwriadu cynnwys addewid yn y maniffesto ar gyfer yr etholiad y flwyddyn nesaf i gyflwyno cwotas ar gyfer ymfudwyr â sgiliau isel o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mewn cyfweliad gyda’r Sunday Times, mae Angela Merkel yn gwrthod y syniad o newid sylfaenol o’r fath.

“Ni fydd yr Almaen yn ymyrryd ag egwyddorion sylfaenol rhyddid symudiad yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

Daw ei sylwadau ar adeg anodd i David Cameron wrth iddo orfod ymateb i gais gan yr Undeb Ewropeaidd am gyfraniad ychwanegol o £1.7 biliwn gan Brydain.