Mae pleidleiswyr yn y rhan fwyaf o’r Wcrain yn ethol aelodau ar gyfer senedd y wlad heddiw.
Mae tua 36 miliwn wedi cofrestru i bleidleisio, ond ni fydd etholiad mewn ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan genedlaetholwyr Rwsiaidd yn y dwyrain.
Y disgwyl yw mai plaid yr Arlywydd Petro Poroshenko fydd yn ennill y gyfran uchaf o’r pleidleisiau, ond nid yw’n sicr a fydd y blaid yn gallu ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun.
Daw’r etholiad ar ôl misoedd o helyntion yn sgil y rhaniadau dwfn yn y wlad rhwng ardaloedd yn y dwyrain sy’n ffafrio cysylltiadau agosach â Rwsia ac ardaloedd gorllewinol sy’n awyddus i’r Wcrain ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Cafodd y cyn-arlywydd, Viktor Yanukovych, ei orfodi i ymddiswyddo ym mis Chwefror ar ôl protestiadau torfol yn erbyn ei ffafriaeth tuag at Rwsia.