Talaith Helmand yn Afghanistan
Mae milwyr Prydain ac America wedi trosglwyddo Camp Bastion yn Helmand i luoedd Afghanistan.

Mewn seremoni’r bore yma cafodd baneri Jac yr Undeb a’r Stars and Stripes eu gostwng am y tro olaf yn y gwersyll.

Mae’r trosglwyddo yn ddiwedd ar ymgyrch filwrol a barhaodd 13 mlynedd, ac o’r 453 o filwyr o Brydain a gafodd eu lladd yn Afghanistan, yn Helmand y bu farw’r mwyafrif llethol ohonynt.

Mae llywodraeth Prydain wrthi’n paratoi i dynnu ei holl ymladdwyr o Afghanistand erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae disgwyl y bydd rhai cannoedd o ymgynghorwyr a hyfforddwyr milwrol yn aros yn y brifddinas Kabul ar ôl diwedd y flwyddyn, ond dywed gweinidogion na fyddan nhw’n cymryd rhan mewn unrhyw ymladd.