Arweinydd Llafur, Ed Miliband - ei blaid i lawr i lefel y Torïaid yn yr arolygon diweddaraf
Mae dau arolwg barn yn awgrymu bod y Torïaid wedi cau’r bwlch rhyngddynt a’r Blaid Lafur.
Yn ôl arolwg gan YouGov yn y Sunday Times, mae’r gefnogaeth i’r ddwy blaid ar 33% yr un, wrth i’r Blaid Lafur ostwng dau bwynt a’r Torïaid godi un o gymharu â’r mis diwethaf.
Roedd Ukip yn drydydd ar 16%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7% a’r Blaid Werdd ar 6%.
Mae arolwg arall gan Opinium yn yr Observer yn dangos darlun tebyg iawn, gyda’r Torïaid a Llafur eto ar 33% yr un. Roedd y gefnogaeth i Ukip yn 18%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6% a’r Gwyrddion ar 4%.
Roedd 2,096 o oedolion wedi cael eu holi ar Hydref 23 a 24 ar gyfer arolwg YouGov.