Mae mwy nag erioed – dros bum miliwn – o weithwyr bellach mewn swyddi sy’n talu’n wael, yn ôl adroddiad newydd.
Fe wnaeth y niferoedd sy’n ennill llai na dau draean canolrif tâl yr awr – sy’n gyfwerth â £7.69 yr awr – gynyddu 250,000 i 5.2 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl yr adroddiad gan The Resolution Foundation, mae problem ddifrifol o bobl yn gaeth mewn swyddi sy’n talu’n wael, gyda bron i chwarter y rhai sydd ar isafswm cyflog wedi bod ar yr un raddfa dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Frances O’Grady:
“Y penwythnos diwethaf ymunodd 90,000 o bobl â’n gorymdaith i alw am godiad cyflog i weithwyr ledled Prydain ac mae’r adroddiad hwn yn dangos pam.
“Mae llawer o’r swyddi sydd wedi cael eu creu ers y dirwasgiad yn rhai tâl isel, dros dro ac ar gontractau dim oriau. Y perygl yn sgil hyn yw bod llawer o bobl a’u teuluoedd yn cael eu gadael ar ôl, heb allu rhannu unrhyw fudd o’r adferiad economaidd – tra bod y rhai ar y top yn cymryd cyfran gynyddol o gyfoeth y wlad.”