Un o’r glowyr a gafodd eu hanafu’n cael ei gludo i’r ysbyty wedi’r ddamwain yn y lofa yn nhalaith Xinjiang heddiw (AP Photo/Xinhua, Zhao Ge)
Mae 16 o lowyr wedi cael eu lladd ac 11 wedi cael eu hanafu mewn glofa yng ngogledd-orllewin China.

Cafodd y trychineb ei achosi gan siafft yn dymchwel yn y lofa gerllaw Urumqi, prifddinas talaith Xinjiang, yn gynharach heddiw.

Mae pyllau glo China ymysg y rhai peryclaf yn y byd, er bod mesurau diogelwch wedi lleihau’r nifer o farwolaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd 1,067 eu lladd mewn 604 o ddamweiniau glofaol y llynedd, a oedd i lawr 23% o gymharu â’r flwyddyn cynt, a 6,000 yn llai na’r hyn a oedd ddegawd ynghynt.