Mae dynes wedi cael ei chrogi yn Iran ar ôl cael ei dedfrydu am lofruddio dyn yr oedd hi’n honni iddo geisio ei threisio.

Dywed yr asiantaeth newyddion swyddogol, IRNA, i Reyhaneh Jabbari gael ei chrogi am lofruddiaeth fwriadol.

Roedd y llys wedi gwrthod yr honiad o geisio treisio ac yn dweud bod pob tystiolaeth yn profi bod Jabbari wedi cynllwynio i ladd Morteza Abdolali Sarbandi, cyn asiant cudd.

Yn ôl y llys, roedd y ddynes 27 oed wedi trywanu Sarbandi yn ei gefn yn 2007 ar ôl prynu cyllell ddeuddydd ynghynt.

Aeth y dienyddiad yn ei flaen ar ôl i deulu Sarbandi wrthod pardwn i Jabbari na derbyn iawndal.

Roedd Amnest Rhyngwladol a grwpiau hawliau dynol eraill  wedi galw ar lywodraeth Iran i atal y dienyddiad.