Y posteri sy'n esbonio'r gwaharddiad
Dim ond y tu ôl i’r cownter y bydd blawd ac wyau ar werth yn siopau Sir Gaerfyrddin am yr wythnos nesaf.
Mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin, mae siopau’r sir wedi cytuno i dynnu blawd ac wyau oddi ar eu silffoedd tan noson Galan Gaeaf.
Y nod yw ceisio rhwystro ymddygiad gwrth-gymdeithasol dros gyfnod yr ŵyl sy’n gysylltiedig â chodi dychryn ac ofn.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl siopau sydd unwaith eto’n cydweithio gyda ni i leihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol,” meddai’r Cynghorydd Pam Palmer, Cadeirydd y Bartneriaeth.
“Mae arnom eisiau sicrhau bod pawb yn mwynhau Calan Gaeaf, boed arnyn nhw eisiau dathlu neu beidio.”
Mae posteri wedi cael eu gosod ar ffenestri siopau yn esbonio’r cyfyngiadau: y neges ar y fersiwn Gymraeg yw “Nid oes pawb yn dwlu ar angenfilod bach adeg Calan Gaeaf”.