Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi mynegi ei dristwch
Mae pennaeth y cwmni olew Total o Ffrainc wedi cael ei ladd ar ôl i’w awyren fod mewn gwrthdrawiad a cherbyd clirio eira mewn maes awyr ym Moscow.

Yn ôl ymchwilwyr i’r ddamwain yn Rwsia, roedd gyrrwr yr aradr eira yn feddw ar y pryd.

Cadarnhaodd Total “gyda gofid a thristwch” bod y cadeirydd a phrif weithredwr y cwmni, Christophe de Margerie, 63 oed, wedi marw yn y ddamwain ym maes awyr Vnukovo.

Bu farw tri aelod o griw’r awyren hefyd, pob un ohonynt yn ddinasyddion Ffrengig, pan darodd yr awyren yr aradr eira wrth geisio esgyn.

Dywedodd awdurdodau Rwsia heddiw fod gyrrwr yr aradr eira o dan ddylanwad alcohol ar y pryd.

Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi mynegi ei dristwch o glywed y newyddion.

Roedd Christophe de Margerie yn teithio i Rwsia’n aml ac yn feirniadol iawn o sancsiynau yn erbyn y wlad gan ddweud ei fod yn niweidiol i economi’r byd.

Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin hefyd wedi estyn ei gydymdeimlad i’w deulu.