Mae Ayatollah Mohammadreza Mahdavi Kani, pennaeth corff clerigol mwyaf dylanwadol Iran sy’n gyfrifol am ddewis neu ddiswyddo arweinydd y wlad, wedi marw yn 83 mlwydd oed.

Ayatollah Kani oedd cadeirydd Cynulliad yr Arbenigwyr, corff o 86 o uwch glerigwyr sy’n monitro’r goruchaf arweinydd ac yn dewis olynydd ar ôl ei farwolaeth.

Y Cynulliad yw un o’r sefydliadau mwyaf pwerus yn Iran, er nad yw’n ymwneud â materion pob dydd y wladwriaeth.

Roedd wedi bod yn y swydd ers mis Mawrth 2011, ar ôl i’w ragflaenydd, cyn Arlywydd Iran Akbar Hashemi Rafsanjani gael ei ddisodli yn dilyn anghydfod gyda nifer o glerigwyr ceidwadol.

Roedd Ayatollah Kani, cyn brif weinidog dros dro yn yr 80au, wedi bod mewn coma ers mis Mehefin.