Oscar Pistorius
Fe fydd yr athletwr Oscar Pistorius yn dychwelyd i’r llys yn Pretoria heddiw er mwyn cael ei ddedfrydu am ladd ei gariad Reeva Steenkamp.
Mae disgwyl i’r barnwr Thokozile Masipa gyhoeddi’r ddedfryd heddiw ar ôl i Pistorius ei gael yn euog o ddynladdiad ei gariad.
Mae erlynwyr yn dadlau y dylai’r athletwr dreulio i leiaf deng mlynedd yn y carchar tra bod yr amddiffyniad yn galw am ddedfryd o waith cymunedol.
Roedd Pistorius wedi lladd Reeva Steenkamp ar ddydd San Ffolant y llynedd pan daniodd gwn drwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref.
Mae’r athletwr yn honni ei fod yn credu mai lleidr oedd y tu ôl i’r drws.
Yn y cyfamser mae ei deulu wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi Pistorius waeth beth fydd y ddedfryd.
Mewn cyfweliad gyda newyddion ITV dywedodd Aimee Pistorius: “Dydw i ddim yn amau fy mrawd o gwbl. Rwy mewn sefyllfa arbennig o wybod beth yw ei gryfderau a’i wendidau, fel ydych chi pan ’dach chi mor agos ag ydym ni.”