Gweithwyr iechyd yn Lloegr yn streicio wythnos diwethaf
Mae undeb Unsain wedi cyhoeddi bod gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd wedi pleidleisio o blaid streicio, wrth i’r ddadl tros gyflogau boethi.

Fe fydd nyrsys, therapyddion, parafeddygon a glanhawyr yn cerdded allan o’u gwaith mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â rhoi codiad cyflog o 1% iddyn nhw.

Yn hytrach, cynigwyd un pecyn tal o £160 i’r holl staff.

“Mae ein haelodau sy’n gweithio o fewn y GIG am anfon neges glir eu bod nhw’n werth mwy na £160,” meddai Ysgrifennydd Rhanbarthol yr undeb yng Nghymru, Margaret Thomas.

“Mae cyflogau’r gweithwyr wedi disgyn o tua 10% ers 2010 ac mae hi’n hen bryd i Lywodraeth Cymru roi bargen deg iddyn nhw.”

Gweithredu

Fe fydd y streic yn dilyn gweithredu tebyg yn Lloegr yr wythnos diwethaf, pan gerddodd cannoedd o filoedd o bobol allan o’u gwaith.

Nid oes cadarnhad faint o weithwyr fydd yn streicio na dyddiad y streic ar hyn o bryd.