Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu bod diffoddwyr tân yng Nghymru wedi dioddef tua 250 o ymosodiadau corfforol a geiriol ers 2009.

Cofnodwyd 129 digwyddiad yn ne Cymru, 64 yn y Canolbarth a’r Gorllewin, a 58 yng ngogledd Cymru.

Roedden nhw’n cynnwys ymosodiadau corfforol ac aflonyddu yn ogystal â phethau’n cael eu taflu at ddiffoddwyr.

Mae llefarydd Gwasanaethau Cyhoeddus Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC, yn galw am weithredu yn erbyn y rhai sy’n cynnal yr ymosodiadau.

‘Gwarthus’

“Mae diffoddwyr tân yn peryglu eu diogelwch wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae’n warthus eu bod yn cael eu bygwth wrth eu gwaith,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Rhaid gweithredu polisi o oddef dim yn erbyn y sawl sy’n cam-drin ein diffoddwyr tân dewr.

“Mae diffoddwyr tân yn gwneud gwaith gwerthfawr ar ran y cyhoedd dan amgylchiadau anodd iawn, ac mae Plaid Cymru yn credu na ddylai Llywodraeth San Steffan fod yn ymosod ar bensiynau’r gwŷr a’r gwragedd dewrion hyn.”

‘Annerbyniol’

Ychwanegodd Cerith Griffiths, ysgrifennydd Undeb y Frigâd Dân (FBU) yng Nghymru: “Mae pwnc ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân yn rhywbeth y bu’r FBU yn ymgyrchu yn ei gylch ers blynyddoedd lawer, ac yr ydym yn croesawu galwadau am agwedd o beidio goddef.

“Nid yn unig y mae ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân yn annerbyniol ond maen nhw’n beryglus hefyd.”