Timau achub Nepal yn cludo corff i lawr o'r mynydd
Mae timau achub yn Nepal wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau i chwilio am gerddwyr yn y mynyddoedd heddiw, gan ddweud fod y rhai a gafodd eu dal mewn storm eira ar y llwybrau bellach yn ddiogel.
Bu farw dros 38 o bobl, yn cynnwys cerddwyr o Ganada, India, Israel, Slofacia, Gwlad Pwyl a Siapan yn y lluwchfeydd a’r eirlithradau difrifol a ledodd trwy’r Himalayas yn ystod yr wythnos diwethaf, gydag ardal boblogaidd Annapurna yn dioddef waethaf.
Mae’r awdurdodau yn credu fod y cerddwyr a’r tywyswyr bellach wedi cael eu hachub ac nad oes rhagor o bobl wedi’u dal ar y llwybr. Bydd rhai milwyr yn parhau yn gwersylla yn yr ardal.
Hyd yn hyn, mae 34 o gyrff wedi cael eu hadnabod. Fe fydd y rhan fwyaf yn cael eu cludo i drefi gerllaw neu Katmandu ar gyfer archwiliadau post mortem.