Mae’r Unol Daleithiau a phedair gwlad arall wedi condemnio’n gryf iawn y trais sy’n dal i ferwi yn Libya, gan alw am gadoediad yn syth bin.

Y gwledydd sydd wedi gwneud y datganiad ysgwydd ac ysgwydd ag America ydi Prydain, Ffrainc, yr Eidal a’r Almaen.

Mewn datganiad ar y cyd, maen nhw’n rhybuddio y gallai’r rhyddid y mae Libya wedi ymladd mor galed i’w ennill, fod yn y fantol os na fydd hi’n bosib rhoi trefn ar y grwpiau terfysgol sy’n cael defnyddio’r lle fel hafan rhag talu trethi.

“Fe fyddwn ni’n sefyll yn gadarn ac yn barod i godi sancsiynau, dan gytundeb y Cenhedloedd Unedig, i ymladd y rheiny sy’n bygwth heddwch, sefydlogrwydd a diogelwch Libya neu’n tanseilio’r broses wleidyddol,” meddai’r gwledydd.

Yn ninas Benghazi yn Libya nos Wener, fe fu ymladd ffyrnig rhwng gwrthryfelwyr Islamaidd a’r lluoedd sy’n parhau’n driw i lywodraeth etholedig Libya. Mae dwsinau o bobol wedi marw yn ystod tridiau o ymladd..