Does gan Dduw ddim ofn pethau newydd, meddai’r Pab Ffransis, wrth gyflwyno adroddiad ar gyfarfod o’r Eglwys Babyddol oedd yn trafod materion teuluol.
Fe fethodd y cyfarfod â dod i gytundeb ar ddau fater pwysig, sef croesawu pobol hoyw a chyplau sydd wedi ysgaru a phriodi mewn seremonïau sifil. Mae’r ddau fater ar yr agenda ar gyfer cyfarfod arall o’r esgobion y flwyddyn nesa’.
Tra bod y synod wedi codi cwr y llen ar agwedd ddigyfaddawd a thraddodiadol iawn ar y materion dan sylw, mae’r Pab yn dweud na ddylai unrhyw fater fod yn tabw.
“Does ar Dduw ddim ofn pethau newydd,” meddai. “Dyna pam mae o’n dal i’n rhyfeddu ni, gan agor eich calonnau a’n harwain ni mewn ffyrdd annisgwyl iawn.”