Timau achub Nepal yn cludo corff o'r mynydd
Mae 27 o gyrff bellach wedi cael eu darganfod yn Nepal wedi i storm eira daro un o lwybrau cerdded mwyaf poblogaidd y wlad ddydd Mawrth.

Credir bod tua 70 o gerddwyr o dramor dal yn ar goll ger llwybr Annapurna, sydd tua 100 milltir i’r gogledd orllewin o’r brifddinas Katmandu. Mae dwsinau o gerddwyr eraill wedi cael eu hachub ac mae rhai yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mis Hydref yw un o’r misoedd mwyaf poblogaidd i gerddwyr fynd i’r ardal, gyda’r tywydd fel arfer yn gymedrol oer a chlir.

Cafodd pedwar corff eu darganfod ddoe.

Yn ôl Asiantaeth Gerdded Nepal mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu wrth i’r chwilio am gerddwyr barhau.