Mae pwyllgor iechyd yn y Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig “arweinyddiaeth gryfach” er mwyn i’w chynllun canser gael ei weithredu’n gywir.
Dywed y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu bod nhw am weld y cynllun “yn cael ei ddarparu i’w lawn botensial erbyn 2016”.
Dywed y pwyllgor fod y Llywodraeth wedi sicrhau bod rhai gwelliannau wedi cael eu cyflwyno eisoes, yn enwedig ym meysydd ymchwil, sgrinio a gofal diwedd oes.
Ond mae pryderon o hyd nad yw cleifion yn derbyn gofal sy’n cyd-fynd â’r cynllun yn y cyfnod adeg eu diagnosis.
Dywed cadeirydd y pwyllgor, David Rees fod cynnig “arweinyddiaeth genedlaethol gryfach” yn flaenoriaeth.
Mewn datganiad, dywedodd: “Mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion i’r Gweinidog, ac os cânt eu derbyn a’u rhoi ar waith, rydym o’r farn y byddant yn helpu i fodloni dyheadau’r cynllun.
“Mae’r pwysicaf o’r rhain, o bosibl, yn ymateb i’r pryderon a glywsom na fydd dyheadau’r Cynllun yn cael eu gwireddu tan 2016 os na fydd arweinyddiaeth genedlaethol gryfach.
“Ar sail hynny, rydym yn gofyn i’r Gweinidog sicrhau bod corff gyda chylch gwaith clir, a’r adnoddau sydd eu hangen, i ddarparu sbardun ac arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol, gan ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau lleol.”
‘Heb weithredu’r cynllun yn ddigon da’
Wrth ymateb i argymhellion y pwyllgor heddiw fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, Kirsty Williams, nad oedd hi’n gweld problem â chynllun Llywodraeth Cymru.
Yn hytrach fe ddywedodd nad oedd hi’n teimlo fod y Llywodraeth yn gweithredu’r cynllun yn iawn.
“Roedd hi’n amlwg o’r dystiolaeth nad oedd unrhyw beth o’i le â’r Cynllun Cyflawni Canser ei hun,” meddai Kirsty Williams.
“Yn anffodus, fel sydd yn aml yn digwydd â’r Llywodraeth Lafur Cymru yma, dy’n nhw ddim wedi gweithredu’r cynllun yn ddigon da.”
Cafodd hyn ei ategu gan lefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones.
“Mae’r adroddiad pwysig yma’n dangos fod angen arweinyddiaeth gref gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau i gleifion sydd â chanser,” meddai Elin Jones.
“Ar hyn o bryd rydyn ni’n gwybod fod gormod yn aros llawer rhy hir am brofion all arbed bywydau ac o ganlyniad ddim yn cael eu trin yn ddigon cyflym.”
‘Triniaeth anghyson’
Fe fynnodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, mai un o’r problemau mwyaf oedd yr anghysondeb mewn gofal canser ar draws Cymru.
Dywedodd ei bod hi’n bryd i Lywodraeth Cymru sefydlu Cronfa Driniaethau Canser, rhywbeth y mae ei blaid ef wedi bod yn galw am ers blynyddoedd.
“Mae’r adroddiad trawsbleidiol hwn yn cadarnhau beth mae cleifion canser a Cheidwadwyr Cymru wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd,” meddai Darren Millar.
“Mae’r broses o gael mynediad i feddyginiaethau canser yn annheg ac angen ei newid.
“Am flynyddoedd mae Gweinidogion Llafur wedi gwadu’r fath beth â loteri cod post ac wedi gwrthod galwadau i sefydlu Cronfa Driniaethau Canser tebyg i rannau eraill o Brydain.”
Pryderon Macmillan
Cafwyd croeso i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan elusen ganser Macmillan Cymru – gyda rhybudd fod llawer mwy angen ei wneud i wella gofal yn y maes.
“Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn pennu’r cyfeiriad cywir ar gyfer gofal canser yng Nghymru, ond ddwy flynedd ar ôl iddo gael ei lansio mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn cyflawni pob ymrwymiad ac uchelgais,” meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan Cymru.
“Dangosodd Arolwg cyntaf Profiad Cleifion Canser Cymru nad oedd gan draean y cleifion canser (34%) weithiwr allweddol a 22% yn unig a gafodd gynllun gofal ysgrifenedig.
“Mae angen gweithredu nawr i sicrhau bod y llywodraeth, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru’n cydweithio i droi ymrwymiadau polisi yn wirionedd i gleifion canser.”