Profi samplau gwaed am Ebola
Mae ail weithiwr iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei heintio gydag Ebola, meddai swyddogion yn Texas.
Daw hyn ar ôl i nyrs arall yn yr ysbyty yn Texas fu’n trin y claf Ebola, Thomas Duncan, gael prawf positif am yr haint ddydd Sul.
Nina Pham oedd y person cyntaf i gael ei heintio gydag Ebola yn yr Unol Daleithiau ac mae hyn wedi codi cwestiynau ynglŷn â threfniadau ysbytai a staff mewn ysbytai yn America i ddelio gydag achosion o’r haint.
Bu farw Thomas Duncan, a gafodd ei heintio yn Liberia cyn teithio i America, wythnos ddiwethaf.