Mae nifer y bobl sy’n ddiwaith yng ngwledydd Prydain wedi gostwng i’w lefel isaf ers chwe blynedd.
Bu gostyngiad o 154,000 yn nifer y bobl sy’n ddiwaith yn y DU yn y tri mis hyd at fis Awst, sy’n dod a’r cyfanswm i 1.97 miliwn, neu 6% yn ol ffigurau swyddogol heddiw.
Yng Nghymru bu gostyngiad o 3,000 yn nifer y bobl sy’n ddiwaith i 94,000.
Bu gostyngiad o 18,600 yn nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn y DU ym mis Medi i 951,900.
Mae nifer y di-waith wedi gostwng 538,000 dros y flwyddyn ddiwethaf, y gostyngiad blynyddol mwyaf ers i gofnodion ddechrau yn 1972.
Roedd cyflogau, ar gyfartaledd, gan gynnwys bonysau, wedi cynyddu 0.7% yn y flwyddyn hyd at fis Awst, sef cynnydd o 0.1% ers y mis blaenorol.
Cymru
Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru erbyn hyn yn 6.5% ac mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn credu fod hynny’n adlewyrchu gwaith polisïau Llywodraeth Cymru:
“Mae cwymp parhaus mewn diweithdra yng Nghymru yn dangos fod ein polisïau yn gwneud gwahaniaeth trwy greu a gwarchod swyddi.
“Mae diweithdra yng Nghymru erbyn hyn yn 6.5% ac mae nifer y bobol sydd mewn swyddi uwchben y cyfartaledd hanesyddol.
“Yn ogystal, mae nifer y bobol sy’n dibynnu ar Lwfans Chwilio am Waith wedi disgyn ym mhob rhan o Gymru.
“Mae’r cwymp mewn diweithdra ymysg yr ifanc, sy’n gyflymach yng Nghymru na gweddill Prydain, yn galonogol iawn ac yn dystiolaeth bellach fod polisïau fel Twf Swyddi Cymru yn helpu pobol ifanc i ddod o hyd i swyddi.”
‘Llusgo tu ôl i bawb arall’
Ond yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r ffigyrau yn dangos bod bwlch cynyddol rhwng cyfraddau diweithdra Cymru o’i gymharu â gweddill y DU:
“Tra bod ffigyrau diweithdra yng Nghymru wedi gostwng, mae’r gostyngiad ar raddfa llawer arafach na gweddill Prydain,” meddai llefarydd ar economi’r blaid Eluned Parrot.
“Mae’n rhaid i ni ofyn pam fod 6.5% o’n gweithlu allan o waith pan mae rhannau eraill o Brydain yn gweld adferiad cyflymach.
“O ganlyniad i benderfyniad gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan mae economi Prydain yn tyfu ac mae mwy o bobol mewn gwaith. O dan y blaid Lafur, mae economi Cymru yn llusgo tu ôl i bawb arall.
“Dylai Llywodraeth Cymru roi’r gorau i wastraffu arian ar gynlluniau aneffeithlon fel Twf Swyddi Cymru a buddsoddi mewn cynllun i daclo’r broblem o ddiweithdra hirdymor yng Nghymru.”
‘Swyddi sy’n talu cyflogau isel’
Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth, hefyd wedi datgan pryder ynglŷn â’r ffigyrau, gan ddweud bod gormod o swyddi sgiliau isel sy’n talu’n wael:
“Mae nifer y di-waith yng Nghymru yn parhau i ostwng ac mae hyn i’w groesawu. Ond mae nifer y rhai sydd mewn gwaith dal yn is na’r ffigwr cyn y dirwasgiad ac mae hyn yn bryderus.
“Mae nifer o bobol sydd eisiau bod mewn gwaith er mwyn cyfrannu at yr economi.
“Gwedid mawr economi Cymru yw bod gormod o swyddi sy’n gofyn am sgiliau isel ac yn talu’n isel. Dylai creu swyddi mwy cynhyrchiol ar dâl gwell fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
“Mae Plaid Cymru am weld twf economaidd trwy Gymru gyfan, ac mae hyn yn golygu buddsoddi mewn prosiectau fel adeiladu ffyrdd newydd ac isadeiledd newydd ar hyd y wlad.”
‘Llwyddiant’
Dywedodd y Gweinidog Cyflogaeth Esther McVey: “Mae’n diwygiadau ni yn canolbwyntio ar helpu pobl yn ôl i fyd gwaith ac mae’r ffigurau heddiw yn dangos bod cynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth i helpu busnesau i greu swyddi yn llwyddiant.”