Mae hi’n Ddiwrnod Shwmae, Su’mae heddiw – diwrnod cenedlaethol i ddathlu’r iaith ac i annog pobol i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.

Dyma’r ail flwyddyn i’r diwrnod gael ei drefnu gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg gyda’r bwriad o wneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd yn dysgu’r iaith.

Mae llu o weithgareddau wedi eu trefnu ledled Cymru er mwyn hybu pobol i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.

Fe fydd prifysgolion Aberystwyth, Bangor a De Cymru yn hybu gwersi Cymraeg ac yn cynnal sesiynau blasu’r iaith i staff a myfyrwyr. Yn ogystal mae disgownt o 10% ar gael yng Nghaffi Iechyd Da yng Nghaerfyrddin i bobol sy’n cyfarch y staff gyda “Shwmae”.

Heno, cynhelir Seremoni Wobrwyo Shwmae Sir Benfro i anrhydeddu unigolion, busnesau a chymdeithasau sydd wedi hybu a chefnogi’r Gymraeg o fewn y sir a bydd Ysgol Llandygai yn cynnal noson Cawl a Chân.

‘Tanio dychymyg’

Dywedodd Gaynor Jones, cydlynydd y diwrnod ar ran Dathlu’r Gymraeg fod y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf yn 2013 wedi “tanio dychymyg pobl ym mhob rhan o Gymru”:

“Roedd y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf yn llwyddiant ysgubol. Eleni bydd ’na gannoedd o weithgareddau ychwanegol yn digwydd ac mae’n amlwg bellach bod cymunedau ledled Cymru wedi perchnogi’r diwrnod ac yn ei weld fel cyfle i ddathlu, rhannu a chryfhau statws yr iaith.

“Mae’n wych gweld cymaint o fusnesau yn cymryd diddordeb yn yr ymgyrch eleni, sy’n dangos gwerth yr iaith i fyd busnes. Bwriad yr ymgyrch yw annog pawb i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd boed yn ddysgwyr, yn rhugl neu yn rhydlyd. Ewch amdani!”