Mae gweithiwr iechyd o’r Unol Daleithiau a fu’n rhoi gofal i glaf a fu farw’n ddiweddarach o Ebola wedi profi’n bositif am y feirws.
Dywedodd Dr Daniel Varga o’r Texas Health Resource fod y gweithiwr wedi bod yn gwisgo gwisg arbennig i’w ddiogelu rhag yr haint wrth roi gofal i Thomas Eric Duncan, a fu farw ddydd Mercher yn Dallas.
Os yw’r diagnosis cynnar yn cael ei gadarnhau dyma fydd yr achos cyntaf o Ebola’n cael ei ledaenu yr Unol Daleithiau.
Bu farw Thomas Eric Duncan, 42, ar ôl cyrraedd yr Unol Daleithiau o Liberia ar Fedi 20.
Mae dros 4,000 o bobl wedi marw o ganlyniad i epidemig Ebola yng ngorllewin Affrica, medd Sefydliad Iechyd y Byd, yn bennaf yng ngwledydd Liberia, Sierra Leone a Guinea.