Mae gobaith o hyd y caiff y Gymraeg ei chydnabod mewn deddf fydd yn effeithio ar gynllunio tai, medd mudiad Dyfodol i’r Iaith.
Wythnos ddiwethaf cafodd Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru ei gyflwyno a oedd yn cynnwys rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru benderfynu ar geisiadau cynllunio maen nhw’n credu sydd o bwys arwyddocaol i Gymru. Ond nid yw’r Bil yn cyfeirio at effaith datblygiadau cynllunio ar yr iaith Gymraeg.
Dywed Dyfodol iddyn nhw gael cyfarfod “adeiladol” â’r Prif Weinidog yn dilyn sylwadau a gyflwynodd y mudiad i’r Llywodraeth,
Dywed Emyr Lewis o Dyfodol i’r Iaith, “roedd yn glir i ni fod y Prif Weinidog yn awyddus i ganfod ffordd i sicrhau na fydd cynlluniau tai newydd yn niweidiol i’r Gymraeg, ond bod materion ymarferol i’w datrys.
“Mae angen cyfundrefn statudol fydd yn galluogi’r Gymraeg i fod yn ystyriaeth ym maes cynllunio, ac a fydd yn darparu gwarchodaeth i’r Gymraeg oddi mewn i’r broses yn yr un modd ag y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw yn gwarchod yr amgylchedd a safleoedd hanesyddol.”
Dim angen cynnwys y Gymraeg medd Gweinidog
Mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Gynllunio, Carl Sargeant, wedi dweud bod mesurau ar waith ar draws gwaith y Llywodraeth eisoes i warchod y Gymraeg, ac nad oedd angen “unrhyw beth sy’n benodol i’r iaith Gymraeg” o fewn y Bil.
“Dw i ddim yn cydnabod o gwbl unrhyw beth sy’n awgrymu bod y system gynllunio yn niweidio’r iaith Gymraeg,” meddai Carl Sargeant.
Bydd y Bil yn mynd drwy broses graffu pedwar cam cyn iddo ddod yn Ddeddf.