Trafferth yn Old Trafford (Llun: Martin Rickett/PA Wire)
Mae chwaraewr St Helens Lance Hohaia wedi dweud nad yw’n dal dig yn erbyn y Cymro Ben Flower ar ôl i’r prop o’r Cymoedd ei lorio gydag ergyd yn ail funud Ffeinal Fawr Rygbi’r Gynghrair.
Gwywodd dyhead Wigan i guro eu gelynion yn dilyn carden goch Flower gerbron torf o 70,000 yn Old Trafford ym Manceinion.
“Yng ngwres y foment mae pobl yn gwneud pethau maen nhw’n eu difaru,” meddai Lance Hohaia.
“Rwy wedi gwneud pethau dwl ar y cae fy hun felly wnai ddim dal dig yn erbyn Ben.”
‘Haeddu clipsen’
Ben Flower, 26, yw’r chwaraewr cyntaf i gael ei anfon o’r cae ers i’r Ffeinal Fawr gychwyn yn 1998 i benderfynu ar enillydd terfynol y gynghrair. Ymatebodd chwaraewr Cymru i hergwd gan Lance Hohaia drwy ddal ergyd ar ên y chwaraewr o St Helens ac yna ei daro eilwaith ar lawr.
Mae cyn-arwr Wigan Martin Offiah wedi amddiffyn ergyd gyntaf Flower, gan ddweud fod Hohaia yn “haeddu clipsen” ond bod yr ail ergyd “dros ben llestri.”
Roedd y digwyddiad wedi ennyn ymateb ffyrnig ar Twitter, ac mae capten Wigan Sean O’Loughlin wedi dweud bod y digwyddiad “yn groes i gymeriad” y Cymro.
Mae disgwyl i Ben Flower wynebu panel disgyblu a gwaharddiad ddydd Mawrth.