Jonathan Williams ddim yn ymarfer heddiw
Ni fydd Jonathan Williams yn holliach ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Cyprus nos Lun ar ôl iddo gael ei anafu yn erbyn Bosnia nos Wener, yn ôl rheolwr Cymru Chris Coleman.
Roedd Williams yn un o sêr Cymru wrth iddyn nhw gael canlyniad cyfartal ddi-sgôr yn erbyn Bosnia, gan fygwth y gwrthwynebwyr nifer o weithiau â’i rediadau.
Ond fe gafodd driniaeth arw gan y Bosniaid, gan dderbyn nifer o daclau caled, ac mae’r rheiny wedi gadael ei farc ar Williams.
Hal i mewn?
“Yr unig golled yw Jonny Williams, fydd e ddim ar gael,” meddai Coleman, a ddywedodd y gallai Hal Robson-Kanu ddod i mewn yn lle’r chwaraewr canol cae.
“Yng ngêm nos Wener doedden ni ddim yn disgwyl iddo chwarae 90 munud … ond yn y 75 munud a dreuliodd ar y cae fe gafodd ddau neu dri tacl wael arno, ac yn anffodus mae wedi talu’r pris.
“Mae’n hunanol ar y cae, dyw e ddim ofn rhedeg at y gwrthwynebwyr, mae’n chwarae’n bositif tu hwnt … doedden ni ddim eisiau colli mwy yn y safle yna [yng nghanol cae].”
Ennill yn flêr
Mynnodd Coleman, gyda’i dîm hyd yn oed yn brinnach o chwaraewyr canol cae bellach, nad oes ots ganddo sut mae Cymru’n sicrhau tri phwynt yn erbyn Cyprus yfory.
Ond mae yna ddigon o ysbryd yn y garfan bellach, yn ôl y rheolwr.
“Mae gennym ni ddigon ar gyfer y grŵp yma, dyw ysbryd yn y tîm ddim yn ennill gemau i chi, ond hebddo dy’ch chi ddim yn ennill chwaith,” meddai Coleman.
“Bydd e’n anodd nos fory, fydd Cyprus ddim yn dod yma a gwneud pethau’n hawdd i ni. Maen nhw wedi ennill un a cholli un felly fe fyddwn nhw’n edrych am rywbeth yng Nghymru. Bydd e’n gêm dda, dau dîm da.
“Dydw i ddim am ymddiheuro os nad yw’r bert, yr unig beth rydyn ni eisiau yw’r canlyniad. Os gawn ni’r tri fory, fe fydd y pwynt dydd Gwener [yn erbyn Bosnia yn wych.”
Cri i’r cefnogwyr
Bydd Cymru ar frig y grŵp ar ôl y tair gêm gyntaf os ydyn nhw’n trechu Cyprus nos fory, y tro cyntaf iddyn nhw fod yn y safle hwnnw ers dyddiau Mark Hughes.
Dim ond tri phwynt nos fory wnaiff y tro i reolwr Cymru – ond mae’n ffyddiog y bydd hynny’n bosib gyda chymorth y cefnogwyr unwaith eto.
“Os enillwn ni fory mae’n golygu’n bod ni’n mynd i Wlad Belg fis nesaf ar frig y grŵp,” meddai Coleman.
“Beth bynnag gawn ni [yn erbyn Cyprus] fe fydd yn rhaid i ni weithio’n galed amdano. Ond y wobr fawr fyddai eistedd ar frig y grŵp yn mynd mewn i’r gêm fis nesaf.
“Fe wnaeth y cefnogwyr helpu ni dros y llinell nos Wener, roedden nhw’n wych. Yr unig beth allai ddweud yw plîs, plîs dewch nôl a’n cefnogi ni [nos Lun] achos rydyn ni’u hangen nhw y tu ôl i ni.
“Dw i erioed wedi gweld tîm yn cael ei glapio oddi ar y cae fel yna [yn erbyn Bosnia] pan dy’n nhw ddim wedi ennill, mae’r cefnogwyr yn cydnabod fod y chwaraewyr yma’n gweithio’n galed.”