Llun: Tim Ireland/PA Wire
Mae milwyr o Brydain ar dir Irac ac yn cynorthwyo Cwrdiaid yn eu brwydr yn erbyn IS, medd y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae “tîm arbenigol bychan” wedi ei leoli ger dinas Gwrdaidd Erbil yng ngogledd Irac ar ôl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon roi sêl bendith i’w presenoldeb yno.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod nhw’n helpu i hyfforddi byddin y Cwrdiaid, y Peshmerga, yn eu brwydr nhw yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd ac yn “rhoi cyfarwyddyd ar ddefnyddio a chynnal gynau trwm a roddwyd gan y Deyrnas Unedig fis diwethaf.”
Aeth lluoedd Prydain i Irac ym mis Mawrth 2003 yn yr ymgyrch i oresgyn Saddam Hussein, gan barhau yn y wlad tan fis Ebrill 2009. Arhosodd ychydig o filwyr Prydain yn y wlad tan 2011 er mwyn hyfforddi lluoedd Irac.