Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn Sblot, Caerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Stryd Adeline tua 2 o’r gloch  y prynhawn a chafodd yr ardal ei hynysu ganddyn nhw am gyfnod.

Cafodd y dyn 41 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ac nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi beth oedd natur y digwyddiad.