Carreg fedd ymladdwr Cwrdaidd a gafodd ei ladd gan IS yn y frwydr am dref Kobani
Mae adroddiadau bod brwydro ffyrnig rhwng milwyr Cwrdaidd a milwriaethwyr IS yn nhref Kobani yn Syria, sydd ar y ffin a Thwrci.

Mae’r frwydr am Kobani yn parhau a hynny er gwaethaf cyrchoedd awyr sy’n cael eu harwain gan yr Unol Daleithiau ar dargedau IS.

Dywedodd swyddog Cwrdaidd Ismet Sheikh Hasan bod y brwydro heddiw yn bennaf mewn ardaloedd yn ne a dwyrain y dref.

Ers i filwriaethwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ymosod ar Kobani ym mis Medi, mae o leiaf 500 o bobl wedi’u lladd a mwy na 200,000 wedi gorfod ffoi o’u cartrefi dros y ffin i Dwrci.

Mae America am wybod faint o gymorth mae Twrci yn fodlon ei roi i helpu i hyfforddi ac arfogi’r gwrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu arweinyddiaeth Arlywydd Syria, Bashar Assad.

Mae Twrci wedi cytuno i gefnogi ymdrechion i hyfforddi’r gwrthryfelwyr ond nid yw’r UD yn gwybod a yw Ankara yn fodlon cynnal yr hyfforddiant yn Nhwrci.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae IS wedi llwyddo i feddiannu nifer o ardaloedd ar draws Irac a Syria ac mae’r Unol Daleithiau wedi annog Twrci i gymryd rhan ehangach yn y frwydr yn erbyn y grŵp eithafol.