Fe fu tua 300 o bobl yn cymryd rhan mewn rali tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd heddiw yn galw am wahardd ffracio yng Nghymru.
Roedd y rali, a gafodd ei chyd-lynu gan Gyfeillion y Ddaear a Frack Free Wales, yn cael ei chynnal yr un pryd a phrotestiadau eraill ar draws y byd yn erbyn ffracio.
Cafodd deiseb gyda miloedd o enwau arni ei chyflwyno, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y broses ddadleuol o dyllu am nwy siâl.
Mae ffracio yn golygu chwistrellu tywod a hylif i’r creigiau dan ddaear i’w gwahanu a rhyddhau’r nwy.
Roedd siaradwyr yn y digwyddiad yn cynnwys Bethan Jenkins AC, Mick Antoniw a William Powell, a chynrychiolwyr o gymunedau a allai gael eu heffeithio fel Llandw ym Mro Morgannwg.
Dywedodd Gareth Clubb, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru: “Gyda bysiau’n dod i’r rali o Aberystwyth a Sir Benfro, mae ffracio yn amlwg yn bwnc hynod o bwysig i bobl Cymru.
“Mae’r broses o bwmpio dŵr a chemegolion o dan ein cartrefi, trefi a chefn gwlad yn hynod o amhoblogaidd yn ogystal â bod yn niweidiol i newid hinsawdd a’r amgylchedd lleol.”
Dywed arbenigwyr Llywodraeth y DU y dylid caniatáu ffracio o dan ganllawiau llym. Y gred yw y gall nwy siâl greu cyflenwadau ynni rhad.
‘Pryderon dybryd’
Ond mae Cyfeillion y Ddaear yn dweud y dylai’r Llywodraeth fod yn ystyried ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni fel ynni’r haul, gwynt a’r llanw.
“Rydyn ni’n gofyn i Brif Weinidog Cymru i alw am foratoriwm ar ffracio. Mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros gynllunio, felly fe allai ei atal mewn dim,” meddai Gareth Clubb.
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru Jill Evans hefyd wedi galw am foratoriwm ar ffracio “nes bod modd profi ei fod yn ddiogel.”
“Mae ffracio yn parhau yn broses arbrofol o dyllu am nwy siâl. Mae ’na bryderon dybryd am ei ddiogelwch a’r budd economaidd.
“Mae ’na wrthwynebiad mawr i ffracio ymhlith pobl Cymru. Rwyf am weld ffracio’n cael ei wahardd nes bod modd profi ei fod yn ddiogel ac nad yw’n niweidio’r amgylchedd.”